Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (153)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Y cynnydd a wnaed o ran datblygu Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-20 (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyllideb Ddrafft 2014-15 (30 munud) |
5 Dadl ar Dalu Costau Tai yn Uniongyrchol i Denantiaid yng Nghymru (60 munud) NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol; 2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai; 3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘â’i chynlluniau’ a rhoi yn ei le: ‘i safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’ Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1: ‘sy’n cynnig y potensial i rymuso pobl drwy roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu harian, a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn croesawu’r ‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r cymorth sydd ar gael i hawlwyr y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid. Gellir gweld yr Universal Credit Local Support Services Framework drwy fynd i: https://www.gov.uk/government/publications/universal-credit-local-support-services-framework [Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus ar holl
ganfyddiadau’r Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a
fydd yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt. |
6 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (60 munud) NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Gosodwyd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Ionawr 2013; Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 18 Gorffennaf 2013. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu. Dogfennau
Ategol |
7 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (5 munud) NDM5317 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. |
8 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (60 munud) NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru). Gosodwyd Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) a'r
Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Medi
2013. |
9 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (5 munud) NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 9 Hydref 2013